Byddwn yn cynnig hyfforddiant Llysgennad yn 2021 dros 2-3 diwrnod i Lysgenhadon – y rhai sydd ar reng flaen ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwirfoddolwyr lleol sydd ag amser i ymroi i rannu eu brwdfrydedd am eu milltir sgwâr. Yn ogystal, byddwn yn cynnig rhaglen fyrrach, hanner diwrnod o’r enw Croesawyr i’r rhai hynny sy’n chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo eu milltir sgŵar, e.e. gyrwyr tacsi, siopwyr, perchnogion bwytai, darparwyr hamdden ac ati.
Y pwrpas yw estyn croeso gwybodus a chynnes sy’n cefnogi ymwelwyr a’r economi dwristiaeth leol. A heb os, mae’n help i gadw gwybodaeth, hanes a straeon yn fyw hefyd.