Categories
Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Prosiect Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Mae Cysylltiadau Hynafol wedi comisiynu comisiynau newydd gan bedwar artist, sy’n archwilio themâu cydgysylltiedig sydd wrth graidd y prosiect, gan gynnwys: pererindod, cysylltu gyda diaspora Celtaidd Iwerddon a Chymru, a’n perthynas â mannau sanctaidd megis ffynhonnau, capeli a safleoedd hynafol.

Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u ysbrydoli gan eu hymchwil bersonol yn ogystal â chanfyddiadau timau Cysylltiadau Hynafol o helwyr straeon, ymchwilwyr cymunedol ac archeolegwyr. Bydd disgwyl i bob artist greu gwaith all gael ei rannu ar-lein, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a phobl sydd lawer ymhellach, er enghraifft yn Awstralia neu Ogledd America, lle mae poblogaethau sylweddol o bobl o dras Cymreig a Gwyddelig. Bydd yr artistiaid hefyd yn cyflwyno’u gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus derfynol yn Wexford a Sir Benfro yn 2022.

Y pedwar artist yw Seán Vicary a Linda Norris, dau artist gweledol o Orllewin Cymru, a’r artist/archeolegydd John Sunderland a’r awdures Sylvia Cullen, o dde-ddwyrain Iwerddon.

Linda Norris

‘Plât Williams Leatham’ o gyfres Cân yr Oer Wynt, decal seramig ar hen lestr

Bwriad Linda Norris yw defnyddio ‘teilchion’ neu ddarnau o grochenwaith fel man dechrau ei phrosiect, ac mae’n annog pobl i anfon teilchion ati a’u lleoli ar fap ar-lein. Meddai:

“Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol. Rwy’n bwriadu dechrau prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yn Sir Benfro a Wexford, ac yna’i ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn ymchwilio’r bobl a ymfudodd o’r ardaloedd hyn i’r Diaspora yn y 19eg ganrif ac yn ceisio dod o hyd i’w disgynyddion.”

Seán Vicary

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

Yn ddiweddar, darganfyddodd yr artist aml-gyfrwng Seán Vicary bod ei hen fam-gu wedi ei geni yn 1874, a hynny dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin ac mae’n gobeithio gallu:

“Deall y grymoedd a arweiniodd ata i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.”

Fe fydd yn darganfod y ‘straeon cudd’ yn y dirwedd ac yn eu gweithio’n greadigol i mewn i deithlyfr personol gafaelgar sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Sir Benfro a Wexford.

“Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddiad yn cyfuno i ddangos y llefydd hyn mewn modd cyffrous a chyfoes; gan adeiladu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

John Sunderland

'The Shooting Hut' (Site 1, Visit 9) o brosiect 'Touching Darkness' (2019)

Bydd yr archeolegydd hyfforddedig ac artist gweledol John Sunderland yn ymgymryd â phererindod o Borth Mawr i Ferns, ac yn cloddio gwrthrychau ar hyd y daith er mwyn creu creirfa ynghyd â ffotograffiaeth twll pin. Yn hytrach na defnyddio dull archeoleg dadansoddol modern, mae’n gobeithio archwilio ei ganfyddiadau gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol, gan dynnu sylw at y “goruwchnaturiol neu’r cysegredig, i gwestiynu’r da a drwg, yr arwyddion a’r argoelion”.

Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Ceatharlach

Mae’r awdures Sylvia Cullen yn bwriadu creu cyfres newydd o straeon byrion ar gyfer podlediadau a ffrydio byw, gan dynnu ar “hanesion cyffrous am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon” a straeon atgofus am fannau cysegredig neu am hiraethu am adref. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn y ddwy gymuned.

Bydd cael gwylio’r prosiectau hyn yn esblygu ar wahan ac yna’n plethu ynghyd mewn cyflwyniad terfynol yn daith gyffrous i dîm y prosiect ac i’n cynulleidfaoedd.

Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Categories
Celfyddydau

Seán Vicary

Comisiwn Celf

Seán Vicary

“Rwy’n mynd i fynd ar daith drwy dirwedd sy’n frith o leoedd a threftadaeth fy hynafiaid ar drywydd gwreiddiau fy hen fam-gu ger Ferns.

Gan ddefnyddio iaith a phrosesau archaeoleg fel trosiad, byddaf yn mynd ati i grafu haenau’r dirwedd o’r neilltu er mwyn datgelu naratifau cudd, gan eu casglu i lunio cyfrol bersonol, ddiddorol a chreadigol sy’n symud o ogledd Sir Benfro i ogledd Swydd Wexford a ‘gartref’ eto. Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddio’n cyfuno i gynrychioli’r lleoedd hyn, gan greu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

“Darganfyddais yn ddiweddar fod fy hen fam-gu wedi’i geni ym 1874, dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin. Roedd hi’n un o ddeg o blant; wn i ddim byd arall amdani hi na’i theulu. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae aflonyddwch a gwleidyddiaeth hunaniaeth ffyrnig yn corddi’r dyfroedd, mae’n teimlo’n briodol ystyried o ble y daethon ni er mwyn myfyrio ar ble rydyn ni am fynd. Mae fy ngwreiddiau Gwyddelig i’w gweld yn fy enw, ac eto dydw i erioed wir wedi cydnabod y rhan honno ohonof. Hoffwn i ddod i ddeall y grymoedd a arweiniodd ata’ i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archaeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.

Fe fydda i’n edrych ar wahanol ymatebion personol i le a thirwedd, lle maen nhw’n gorgyffwrdd, a sut y gallai cynrychiolaeth artistig eu hagor nhw er mwyn i bobl eraill gael eu deall. Dwi’n arbennig o gyffrous am y defnydd o geoffiseg ar gyfer datgelu strwythurau/olion cudd yn y dirwedd ac fe fydda i’n archwilio sut y gellir trin y data a gynhyrchir gan y technegau geoffiseg (gradiometreg magnetig, dargludedd electromagnetig a radar sy’n treiddio’r ddaear) i lunio canlyniad artistig.

Mae rhywbeth deniadol am y broses archaeolegol a dwi’n gweld llawer yn debyg i fy ngwaith fy hun gyda’r ceflfyddydau. Mae pyllau profi a dilyniannau stratigraffig archaeoleg yn mapio cyfnodau yn hanes lleoedd dros amser, gan dorri ar draws ein tirweddau mewnol ac allanol a’n gorfodi i ddychmygu ein dyfodol fel rhan o’r cofnod hwn. Mae meddwl ar raddfeydd amser sy’n ymestyn y tu hwnt i’n hoes ein hunain yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n gwneud penderfyniadau. Sut allai hyn hefyd effeithio ar ein dealltwriaeth o bryderon y byd modern, tybed?”

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2020

Categories
Celfyddydau

Linda Norris – what3sherds, Prosiect Archeoleg Dinasyddion

Comisiwn Celf

Linda Norris

Teilchion: Cyfystyron neu dermau cysylltiedig: talch, telchyn

Categori: Arteffact

Diffiniad: Unrhyw ddarn o grochenwaith neudarn o botyn neu lestr pridd arall wedi torri, sydd ag arwyddocâd archeolegol. Maen nhw’n rhan amhrisiadwy o’r cofnod archeolegol an eu bod mewn cyflwr da. Mae’r dadansoddiad o newidiadau cerameg a gofnodwyd mewn teilchion wedi dod yn un o’r technegau sylfaenol a ddefnyddir gan archeolegwyr wrth bennu cydrannau a chyfnodau i amseroedd a diwylliannau.
(Kipfer www.archaeologywordsmith.com 2020)

“Rwy’n arlunydd sy’n gweithio ar draws ffurfiau celf, gan symud o baentio i chwythu gwydr, o gastio i serameg yn fy ymchwiliadau i genius loci, neu ysbryd gwarchodol y dirwedd. Ar gyfer y Comisiwn Cysylltiadau Hynafol, mae gen i ddiddordeb mewn archwilio sut y galla i ddefnyddio archeoleg i ddatgelu ac astudio cysylltiadau dynol â lleoedd eraill, Iwerddon a’r Diaspora Celtaidd yn bennaf. Rydw i bob amser yn chwilio am bethau sy’n fy nghysylltu â’r dirwedd a’r bobl a oedd yn byw yma o’m blaen ac rwy’n cael fy nenu fwyfwy at ‘ddarganfyddiadau’ bach, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, sy’n adrodd straeon sydd heb eu datgelu o’r blaen ac sy’n fy nghysylltu i â’r dirwedd ac â phobl yr ardal.” – Linda Norris

Cysylltiadau gyda'r Gorffennol

“Yn ddiweddar bûm yn canolbwyntio ar deilchion cerameg rwyf wedi dod o hyd iddyn nhw yn fy ngardd ac ar draethau a gwelyau afon wrth i mi fynd am dro’n ddyddiol. Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol.

Ar gyfer y Comisiwn Cysylltiadau Hynafol rwy’n bwriadu cychwyn prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yng Ngogledd Sir Benfro a Gogledd Wexford yn Iwerddon, ac ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn gwahodd pobl i anfon talch y maen nhw wedi’i ddarganfod yn eu gardd, neu ar deithiau cerdded yn eu hardal leol. Byddaf yn cofnodi, yn ymchwilio ac yn archifo’r darganfyddiadau, ac yn eu hychwanegu at fap ar-lein sydd wedi’i greu ar gyfer y prosiect. Byddaf yn ymgynghori ag archeolegwyr ar y darganfyddiadau a gyflwynwyd rhag ofn bod unrhyw beth a gyflwynir o ddiddordeb archeolegol.”

Diasporas a Disgynyddion

“Fel rhan o’r prosiect hwn, rwyf hefyd yn gobeithio ymchwilio i bobl a ymfudodd o Sir Benfro a Wexford i’r Diaspora yn y 19eg ganrif gan geisio cysylltu â’u disgynyddion. Byddaf yn chwilio am ddarnau bach cerameg o’r lleoedd lle mae’r teuluoedd hynny bellach yn byw ac yn gofyn iddyn nhw anfon ffotograffau, a allai o bosibl ysbrydoli gweithiau celf newydd.

Bydd ffurf y gweithiau celf ffisegol terfynol yn cael eu datblygu mewn perthynas â’r deunydd a ddatgelir yn y broses ymchwil, ond – yn ychwanegol i’r map rhithiol – rwy’n rhagweld ail-greu rhai o’r teilchion mewn gwydr a fydd yn cael ei ymgorffori mewn gwaith celf newydd i’w arddangos ar ddiwedd y Prosiect Cysylltiadau Hynafol.”- Linda Norris

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2022

Dysgwch fwy ar:www.linda-norris.com