Categories
Celfyddydau Pererindod

Camino Creadigol

Prosiect Celf

Camino Creadigol

Mae Cysylltiadau Hynafol yn cynnal pererindod arbrofol a chreadigol o Ferns i Dyddewi ym mis Mai 2022 – y Camino Creadigol. Bydd pedwar artist, pedwar aelod o’r gymuned, awdur taith a gwneuthurwr ffilmiau yn gwneud y daith wyth diwrnod ar droed o Ferns i Dyddewi gan ddechrau ar 1 Mai a gorffen ar 8 Mai. Bydd ffilm ddogfen yn adrodd hanes eu taith ac yn annog eraill i ddilyn yn ôl eu troed.

Yr artistiaid yw: Bonnie Boux, Kate Powell, Suzi MacGregor ac Ailsa Richardson

Mae’r prosiect yn partneru â Journeying, cwmni tywyswyr cerdded a phererindod Celtaidd yn Sir Benfro sy’n gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolaeth Pererindod Prydeinig ar ddatblygu’r llwybr pererinion newydd o Ferns i Dyddewi, sef prif waddol y Prosiect Cysylltiadau Hynafol a gaiff ei lansio’n swyddogol yn 2023.

Mae 2023 yn nodi 900fed pen-blwydd rhoi braint i Dyddewi gan y Pab Callixtus II, a ddatganodd fod dwy bererindod i Gadeirlan Tyddewi gyfystyr ag un daith i Rufain. Mae’n teimlo felly fel blwyddyn addas i lansio’r llwybr newydd!

Bydd y llwybr yn annog cysylltiadau cryfach rhwng y ddau ranbarth Celtaidd hyn, yn ogystal â denu ymwelwyr tramor mewn ffurf gynaliadwy o dwristiaeth drawsffiniol.

Mae Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain (BPT) wedi creu rhestr bostio ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau’r llwybr newydd hwn. Cliciwch ar y botwm isod i ymuno.

Y Daith

Bydd y bererindod yn cychwyn gyda dathliadau cymunedol a’r perfformiad cyntaf erioed o ddarn cerddoriaeth Geltaidd draddodiadol (sydd wedi’i gyfansoddi’n arbennig ar gyfer y digwyddiad). Dechrau Nadoligaidd teilwng i grŵp o bererinion ar eu taith. Yna bydd y pererinion yn gwneud eu ffordd i Rosslare trwy Oulart, Olygate ac Ynys Ein Harglwyddes lle byddan nhw’n mynd ar fferi i Abergwaun. Yn olaf, byddan nhw’n cerdded llwybr arfordir Sir Benfro a rhai llwybrau mewndirol. Byddan nhw’n cyrraedd pen eu taith, tref fechan Tyddewi, ddydd Sul 8 Mai lle byddan nhw’n cael croeso bendigedig. Bydd pyped anferth o Dewi Sant yn ymuno â’r pererinion ac yn arwain y teithwyr i dir Eglwys Gadeiriol Tyddewi gyda gorymdaith gôr arbennig. Golygfa wirioneddol ryfeddol! Arweinir y digwyddiad gan Small World Theatre. Bydd yr artistiaid yn cyflwyno perfformiad byrfyfyr i rannu hanes eu taith a’u profiadau ar hyd y daith.

Cyfryngau a Ffilm Ddogfen

Trwy gydol y daith, bydd profiadau’r pererinion yn ogystal â’r golygfeydd hyfryd, safleoedd treftadaeth a bywyd gwyllt yn cael eu dogfennu gan Llif: Flow, cwmni cyfryngau digidol o Ynys Mon. Bydd y ffotograffau a’r clipiau fideo yn cael eu defnyddio i hyrwyddo’r prosiect a chysyniad y llwybr pererinion newydd ar draws llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac mae ffilm ddogfen fer wedi’i chomisiynu er fel dull o hyrwyddo ac fel gwaddol.

Dilynwch y stori!

Dilynwch daith y pererinion ar ein tudalen Instagram a fydd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol

Dyddiad: Mai 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Mewn Partneriaeth â: Journeying

Allbynnau’r Prosiect:
Perfformiadau gan artistiaid
Ffilm ddogfen
Cynnwys byr ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a ffotograffau

Dysgwch fwy yn: www.journeying.co.uk