Categories
Celfyddydau

Sylvia Cullen – Smugglers and Summer Snowflakes

Comisiwn Celf

Sylvia Cullen

Bydd Smugglers and Summer Snowflakes yn gasgliad newydd o straeon byrion sy’n ymateb yn arbennig i themâu Cysylltiadau Hynafol o deithio, lleoedd cysegredig, y diaspora Celtaidd a hiraeth. Wedi fy ysbrydoli gan Hel Straeon 2019, a gan ddefnyddio fy mhroses benodol fy hun o Gyfnewidiadau Creadigol gyda chymunedau lleol, byddaf yn creu’r casgliad newydd hwn, gan leoli dwy stori yn Wexford a dwy arall yn Sir Benfro.

Mae’r Summer Snowflake’ neu eirïaidd yr haf yn flodyn prydferth, prin a gwenwynig sy’n gynhenid i Wexford; mae’n symbol o’r elfennau dylai pob stori fer dda eu cynnwys. Mae Smyglwyr yn awgrymu’n ddigon amlwg o ble y bydda i’n cael ysbrydoliaeth ar gyfer y casgliad yma – o’r straeon dramatig am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordir Cymru ac Iwerddon.

Caiff y straeon eu dosbarthu’n ddigidol a’u rhannu ar-lein fel cyfres o bodlediadau ar gyfer y diaspora Celtaidd, yn ogystal â chael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr. Byddant hefyd yn cael eu darlledu ar radio leol yng Nghymru a Wexford.

Rhannu Gorffennol

“Dwi’n awdur cefn gwlad, yn byw yng Ngogledd Wexford. Ar gyfer Cysylltiadau Hynafol, byddaf yn llunio gwaith newydd sydd wedi ei ysbrydoli gan yr hanes sy’n gyffredin i ddwy ochr Mor Iwerddon, er mwyn ysbrydoli ein presennol. Mae’r comisiwn yn gyfle gwych i archwilio’r cydgysylltiad rhwng y ddwy ardal, gan greu straeon sy’n swyno ac yn aros ym meddyliau’r rhai hynny sy’n gwrando arnyn nhw neu’n eu darllen, ble bynnag yn y byd maen nhw’n byw.”

Cyfnewid Creadigol

“Fel rhan o’r broses ymchwil, byddaf yn hwyluso nifer o Gyfnewidfeydd Creadigol gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru ac yn Wexford. Rwy’n gweld y rhyngweithio yma fel cyfnewid dwyffordd o hanes llafar ac ymchwil lleol. Byddaf yn hwyluso gweithdy ysgrifennu creadigol ar gyfer nifer o grwpiau ac yn gyfnewid, bydd cyfranogwyr yn cynnig eu persbectif a’u barn ar bedair   thema   Cysylltiadau Hynafol.” – Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Carlow.

Dyddiad: Medi 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Allbynnau’r Prosiect:
Straeon Byrion Newydd
Podlediadau a darllediadau radio
Lansiad llyfr yr arddangosfa derfynol

Categories
Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Prosiect Celfyddydau

Comisiynau Artistiaid

Mae Cysylltiadau Hynafol wedi comisiynu comisiynau newydd gan bedwar artist, sy’n archwilio themâu cydgysylltiedig sydd wrth graidd y prosiect, gan gynnwys: pererindod, cysylltu gyda diaspora Celtaidd Iwerddon a Chymru, a’n perthynas â mannau sanctaidd megis ffynhonnau, capeli a safleoedd hynafol.

Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u ysbrydoli gan eu hymchwil bersonol yn ogystal â chanfyddiadau timau Cysylltiadau Hynafol o helwyr straeon, ymchwilwyr cymunedol ac archeolegwyr. Bydd disgwyl i bob artist greu gwaith all gael ei rannu ar-lein, er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd lleol a phobl sydd lawer ymhellach, er enghraifft yn Awstralia neu Ogledd America, lle mae poblogaethau sylweddol o bobl o dras Cymreig a Gwyddelig. Bydd yr artistiaid hefyd yn cyflwyno’u gwaith mewn arddangosfa gyhoeddus derfynol yn Wexford a Sir Benfro yn 2022.

Y pedwar artist yw Seán Vicary a Linda Norris, dau artist gweledol o Orllewin Cymru, a’r artist/archeolegydd John Sunderland a’r awdures Sylvia Cullen, o dde-ddwyrain Iwerddon.

Linda Norris

‘Plât Williams Leatham’ o gyfres Cân yr Oer Wynt, decal seramig ar hen lestr

Bwriad Linda Norris yw defnyddio ‘teilchion’ neu ddarnau o grochenwaith fel man dechrau ei phrosiect, ac mae’n annog pobl i anfon teilchion ati a’u lleoli ar fap ar-lein. Meddai:

“Ymhell o swyn metelau gwerthfawr neu henebion enwog, mae teilchion yn adrodd hanesion domestig anhysbys ac yn ein cysylltu â’r bobl oedd yn byw yn ein cartrefi yn y gorffennol. Rwy’n bwriadu dechrau prosiect ‘archeoleg dinasyddion’ yn Sir Benfro a Wexford, ac yna’i ymestyn i’r Diaspora Celtaidd. Byddaf yn ymchwilio’r bobl a ymfudodd o’r ardaloedd hyn i’r Diaspora yn y 19eg ganrif ac yn ceisio dod o hyd i’w disgynyddion.”

Seán Vicary

'Nodiadau Maes RAF Tyddewi'

Yn ddiweddar, darganfyddodd yr artist aml-gyfrwng Seán Vicary bod ei hen fam-gu wedi ei geni yn 1874, a hynny dim ond 3.5 milltir o Ferns yn Camolin ac mae’n gobeithio gallu:

“Deall y grymoedd a arweiniodd ata i’n byw yma draw dros y dŵr o gartref fy hen fam-gu. Drwy fynd ati i gloddio drwy fy ngorffennol fy hun, fe fydda i’n cychwyn proses sy’n adlewyrchu’r gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol sy’n mynd ymlaen yn y ddwy gymuned.”

Fe fydd yn darganfod y ‘straeon cudd’ yn y dirwedd ac yn eu gweithio’n greadigol i mewn i deithlyfr personol gafaelgar sy’n symud yn ôl ac ymlaen rhwng Sir Benfro a Wexford.

“Bydd llais, testun, cerddoriaeth, ffilm ac animeiddiad yn cyfuno i ddangos y llefydd hyn mewn modd cyffrous a chyfoes; gan adeiladu ymdeimlad dyfnach o hunaniaeth drwy rannu profiadau o ailgysylltu.”

John Sunderland

'The Shooting Hut' (Site 1, Visit 9) o brosiect 'Touching Darkness' (2019)

Bydd yr archeolegydd hyfforddedig ac artist gweledol John Sunderland yn ymgymryd â phererindod o Borth Mawr i Ferns, ac yn cloddio gwrthrychau ar hyd y daith er mwyn creu creirfa ynghyd â ffotograffiaeth twll pin. Yn hytrach na defnyddio dull archeoleg dadansoddol modern, mae’n gobeithio archwilio ei ganfyddiadau gan ddefnyddio meddylfryd canoloesol, gan dynnu sylw at y “goruwchnaturiol neu’r cysegredig, i gwestiynu’r da a drwg, yr arwyddion a’r argoelion”.

Sylvia Cullen

Clawr drama Sylvia Cullen, The Thaw, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Iwerddon, a gynhyrchwyd gan Ganolfan Gelfyddydau Courthouse yn Tinahely, a gyhoeddwyd gan New Island Books, ac a ysbrydolwyd gan bobl Gogledd Wexford, De Wicklow a Dwyrain Ceatharlach

Mae’r awdures Sylvia Cullen yn bwriadu creu cyfres newydd o straeon byrion ar gyfer podlediadau a ffrydio byw, gan dynnu ar “hanesion cyffrous am fôr-ladrata a smyglo ar hyd arfordiroedd Cymru ac Iwerddon” a straeon atgofus am fannau cysegredig neu am hiraethu am adref. Bydd hi hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol yn y ddwy gymuned.

Bydd cael gwylio’r prosiectau hyn yn esblygu ar wahan ac yna’n plethu ynghyd mewn cyflwyniad terfynol yn daith gyffrous i dîm y prosiect ac i’n cynulleidfaoedd.

Dyddiad: Awst 2020 – Rhagfyr 2022

Ariennir gan: Cysylltiadau Hynafol

Categories
Celfyddydau

Fern Thomas Artist Preswyl Sir Benfro

Artist Preswyl

Fern Thomas – Artist Preswyl Sir Benfro

YNYS: “… ac wrth i greiriau, cerrig, esgyrn a straeon o’r ddau le olchi allan i’r môr, ffurfiwyd ynys newydd yn y canol. Man lle mae diwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod yn cyd-fyw. Ac o’r lle hwn, crëwyd gorsaf radio a ddechreuodd ddarlledu … “

“Ar gyfer y prosiect hwn rwy’n creu gorsaf radio sy’n ‘darlledu’ o YNYS, sef ynys ddychmygol sydd wedi’i lleoli rhwng Sir Benfro a Wexford. Daeth y syniad cychwynol am YNYS o’r erydiad ym Mhorth Mawr, a ddatgelodd gapel Sant Padrig, oedd wedi’i gladdu yno. Mae’r prosiect yn ystyried y posibilrwydd, trwy erydiad arfordirol, y gallai’r holl hanes hwn gael ei olchi i ffwrdd – bod y lleoedd arfordirol hyn yn byw ar ymyl y dibyn, neu ar ymylon hanes.” – Fern Thomas

Cliciwch yma i wrando ar ddarllediadau radio Fern

Man ar gyfer y Gorffennol a'r Dyfodol

“Gan ystyried hyn fel delwedd ehangach rwy’n dychmygu hanes Sir Benfro yn golchi i’r môr a’r un peth yn digwydd yr un pryd i hanes Wexford, ac oddi yma maen nhw’n symud tuag at ei gilydd ac yn cwrdd rhywle yn y canol i greu ynys ddychmygol. Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd.

Bydd y gwaith clywedol hwn ar gael fel sawl pennod a fydd yn dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol lle byddaf yn plethu darnau o gyfweliadau gydag aelodau o’r gymuned a chyfranogwyr i’r prosiect Cysylltiadau Hynafol ochr yn ochr â llên gwerin, ymchwil hanesyddol, chwedlau, recordiadau maes o’r safleoedd, a synau o’r gorffennol yn ogystal â’r presennol er mwyn creu stori sain o’r wlad dragwyddol hon. “

“Yn rhan o’r darllediadau byddaf yn cynnig ymatebion barddonol wedi’u hysbrydoli gan y cwestiynau a ofynnir o fewn y prosiect wrth iddo ddatblygu, gan ddilyn dirgelion, straeon a datgeliadau Cysylltiadau Hynafol.

Cymunedau Sir Benfro a Wexford fydd yn penderfynnu ar gynnwys yr orsaf radio trwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgyrsiau un i un.”-. Fern Thomas

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Awst 2022

Am fwy o wybodaeth ewch i:

www.fernthomas/ynys.com

Allbynnau’r Prosiect:
Podlediadau, digwyddiad seremonïol ac arddangosfa

Categories
Celfyddydau

Artistiaid Preswyl

Prosiect Celfyddydau

Artistiaid Preswyl

Mae Cysylltiadau Hynafol wedi penodi dau Artist Preswyl a fydd yn archwilio’r gorffennol a rennir rhwng Gogledd Wexford a Gogledd Sir Benfro gan weithio ochr yn ochr â’r archeolegwyr a’r haneswyr dan gontract yn ogystal â chymunedau lleol.

Bydd yr artistiaid yn cynhyrchu gweithiau celf newydd dros y ddwy flynedd nesaf, wedi’u hysbrydoli gan gloddio archeolegol, arolygon geoffisegol a chwedlau cymunedol yn Sir Benfro a Wexford; gan arddangos y gwaith terfynol yn gyhoeddus yn y ddau le yng Ngwanwyn/Haf 2022.

Fern Thomas

Yr artist a ddewiswyd ar gyfer Sir Benfro yw Fern Thomas; mae hi wedi’i lleoli yn Abertawe ac mae ganddi gryn brofiad o weithio gyda chymunedau. Bwriad Fern yw creu gorsaf radio a chyfres o 16 podlediad sy’n dilyn datblygiad y prosiect Cysylltiadau Hynafol. Bydd yr orsaf radio yn cael ei darlledu o ynys ffuglennol YNYS ym Môr Iwerddon: “Lle a rennir, er mwyn i ddiwylliant, hanes, breuddwydion, barddoniaeth a chaneuon o bob cyfnod gyd-fyw ochr yn ochr.”

Disgrifia Fern hyn fel:

“Ynys lle gall Dewi Sant eistedd ochr yn ochr â’r tri dyn ifanc o Wexford yn eu canŵ benthyg; lle mae tân bryngaer Boia neu’r môr-forynion oddi ar Borth y Rhaw yr un mor bresennol â’r tywod sy’n erydu ym Mhorth Mawr. Man lle mae’r gorffennol a’r dyfodol yn cyd-gwrdd”.

David Begley

Yr artist a ddewiswyd ar gyfer Wexford yw David Begley, sy’n arlunydd amlgyfrwng profiadol.

Meddai David:

“Meddyliwch: cyn i Aeddan Sant gyrraedd, ac yna’r Normaniaid yn ddiweddarach, beth ddenodd pobl yr hen oesoedd i Ferns yn y lle cyntaf? [Wexford] Ai ar hap wnaeth aradr Tom Breen ddatgelu’r crair cyntaf yn Clone a’n harweiniodd ni i brocio tyllau yn y dywarchen a dyfalu? Pwy blanodd yr hedyn cyntaf? Beth wnaeth i’r llwyth cyntaf fwrw’u gwreiddiau yma, gan adael siarcol a serameg ar eu hôl?”

Bydd David yn gwneud rhaglen ddogfen fideo ar hanes ffermio yn Fearna, yn hyrwyddo prosiect celfyddydau gweledol, adrodd straeon a garddio 12 wythnos gydag Ysgol Genedlaethol St Edan’s, Ferns ac yn cynhyrchu swmp newydd o waith ym maes lluniadu, argraffu, paentio, cerameg ac ysgrifennu.

Y gobaith hefyd yw y bydd y ddau artist yn dod o hyd i ffyrdd o gyd-weithio a dysgu o deithiau ei gilydd.

Dyddiad: Gorffennaf 2020 – Gorffennaf 2022

Ariannwyd gan: Cysylltiadau Hynafol a chynllun Wexford Percent for Art