Y Tîm

Rheolwr Prosiect

Siobhan McGovern

Mae Siobhan wedi gweithio ym myd y celfyddydau, y gymuned a threftadaeth yn Sir Benfro ers bron i ugain mlynedd. Bu’n astudio ym Mhrifysgol Sussex, ac yna symudodd Siobhan adref i ddechrau ei gyrfa yn yr adran farchnata yn Theatr Mwldan. Aeth ymlaen i reoli prosiect adfywio Neuadd Goffa Casnewydd a chreu atyniad treftadaeth newydd i ymwelwyr; Odyn Crochenwaith Canoloesol Casnewydd. Yn fwy diweddar mae Siobhan wedi mwynhau gweithio yn Span Arts fel Rheolwr Gwirfoddol. Mae gweithio gyda chymunedau i greu rhywbeth perthnasol ac ystyrlon wedi bod wrth wraidd gwaith Siobhan ac mae hi’n angerddol am yr hyn y gall y broses hon ei gynnig; ymdeimlad dwfn o gysylltiad, llesiant a mwynhad i bawb sy’n cymryd rhan.

siobhan ashe headshot
E-bost

Siobhan.mcgovern@pembrokeshire.gov.uk

Swyddog Prosiect yn Wexford ​

Eoghan Greene​

Eoghan Greene Profile Picture 201020

Fel ymarferydd Rheoli Prosiect a Dylunio Gwasanaeth ardystiedig, daw Eoghan o gefndir amrywiol sy’n cysylltu entrepreneuriaeth a’r byd proffesiynol â datblygu cymunedol a gwirfoddoli. Mae oes o ganolbwyntio ar y cwsmer ac ymgysylltu o’r gwaelod i fyny, o redeg busnes teuluol i weithio mewn llywodraeth leol, yn rhoi mewnwelediad unigryw i’w ymgysylltiad â grwpiau cymunedol lleol a chyfranogiad llawr gwlad mewn mentrau cymdeithasol. Mae wedi arwain prosiectau twristiaeth fel The Gathering yn Waterford, Strategaeth Diaspora Waterford ac mae’n gwirfoddoli fel arweinydd mewn prosiectau datblygu cymunedol a gweithredaeth leol yn Wexford, ei ardal enedigol. Mae’n angerddol am rymuso cymunedau gwledig gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r mynediad at wasanaethau a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu dyfodol.

E-bost

Eoghan.greene@wexfordcoco.ie

Swyddog Prosiect yn Sir Benfro

Ruth Jones​

Mae Ruth wedi gweithio yn y celfyddydau creadigol ers pum mlynedd ar hugain ac mae ganddi ymrwymiad dwfn i brosiectau cymunedol sy’n seiliedig ar leoliadau. Ar ôl astudio yn Lerpwl a Belfast, symudodd i Sir Benfro ugain mlynedd yn ôl. Yn ogystal â gweithio i Gysylltiadau Hynafol, mae’n arlunydd ac yn wneuthurwr ffilmiau sy’n arbenigo mewn dogfennu prosiectau cymunedol ac mae’n rhedeg Holy Hiatus, cwmni budd cymunedol sy’n archwilio themâu defod, cymuned a chreadigrwydd. Mae hi’n angerddol am y gallu i gymunedau gwledig gynhyrchu, cael mynediad at, ac ymgysylltu â gweithiau celf, digwyddiadau a chyfleoedd o ansawdd uchel, er gwaethaf yr heriau sy’n gysylltiedig â phellter daearyddol, anfantais economaidd a phrinder lleoliadau diwylliannol mewn lleoedd gwledig. Ei strategaeth fu troi’r anfanteision hyn yn gryfderau trwy archwilio pŵer, hanes diwylliannol a harddwch y dirwedd yn uniongyrchol drwy’r perthnasoedd rhwng lleoedd a’u trigolion.

E-bost

Ruth.jones@pembrokeshire.gov.uk

Ruth headshot2020
Rheolwr Prosiect

Rowan Matthiessen

Rowan

Mae Rowan yn rheolwr prosiect creadigol gyda 10 mlynedd o brofiad ym maes diwylliant a threftadaeth. Mae hi wedi arwain amrywiaeth eang o brosiectau sydd â chymuned, creadigrwydd a darganfyddiad yn sylfaen iddynt ac mae’n angerddol am weithio gyda phobl o bob oed a gallu er mwyn gwneud diwylliant yn hwyl ac yn hygyrch. Mae gan Rowan ystod eang o ddiddordebau a sgiliau, yn enwedig mewn: treftadaeth, ecoleg, crefftau traddodiadol, adrodd straeon, hanes llafar, barddoniaeth, gwneud printiau a thecstilau. Er mawr syndod i bobl, mae ganddi radd mewn Biocemeg ond mae hi bob amser wedi bod wrth ei bodd gyda phopeth creadigol ac mae’n mwynhau dysgu am ddiwylliant, straeon a mytholeg Cymru yn arbennig ers iddi symud yma yn 2014.