Un o uchelgeisiau’r prosiect Cysylltiadau Hynafol yw ysbrydoli niferoedd cynyddol o ymwelwyr tramor i ymweld â Gogledd Sir Benfro, Gogledd Wexford neu’r ddau ranbarth yn ddelfrydol. Mae hyn hefyd yn cynnwys mwy o deithio rhwng y ddau ranbarth wrth i’r cymunedau rydym yn gweithio â nhw ddod i adnabod ei gilydd trwy gymryd rhan yn yr amrywiol brosiectau a digwyddiadau rydym yn eu cynnal dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r ddau sefydliad twristiaeth swyddogol ar gyfer y rhanbarthau: Croeso Sir Benfro a Visit Wexford. Trwy’r safleoedd hyn, gall ymwelwyr ddarganfod llawer mwy am yr hyn sydd i’w weld a’i wneud yn Sir Benfro a Wexford, yn ogystal â chael gwybodaeth am lety.