Mae Cyngor Sir Penfro, ynghyd â phartneriaid Cyngor Sir Wexford, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Visit Wexford yn cydweithio ar Gysylltiadau Hynafol, prosiect celfyddydau, treftadaeth a thwristiaeth gynaliadwy trawsffiniol cyffrous a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen gydweithredu Iwerddon Cymru.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn adfywio ac yn dathlu’r cysylltiadau hynafol rhwng cymunedau yng Ngogledd Sir Benfro a Wexford, o Oes y Cerrig hyd at y pererindodau Canoloesol, a hanes mwy diweddar fel yr awyren gyntaf â chriw arni i hedfan ar draws Môr Iwerddon yn 1912. Mae llawer o’r straeon yn amlygu cysylltiadau cryf rhwng y ddwy wlad Geltaidd hon, er enghraifft y cyfeillgarwch hir rhwng Dewi Sant, nawddsant Cymru, a dreuliodd lawer o’i fywyd yn Nhyddewi, a’i ddisgybl a protégé Aeddan Sant sydd â chysylltiad agos â Ferns yn Wexford.
Nod y prosiect yw ysgogi’r ddwy gymuned i ailddarganfod eu treftadaeth gyffredin; bod yn fentoriaid i’w gilydd; rhannu gwybodaeth, profiad a sgiliau ac adeiladu cyfeillgarwch newydd er mwyn creu ymdeimlad cryfach o hunaniaeth a lle a fydd yn parhau i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod. Dros y tair blynedd nesaf, bydd llawer o weithgarwch creadigol yn y ddau ranbarth gan gynnwys: comisiynu gweithiau celf newydd, adfywio sgiliau traddodiadol, hyrwyddo pererindod yn y byd modern, cloddio archeolegol, casglu ac adrodd straeon, cerddoriaeth fyw a phrosiectau ysgolion, yn ogystal â mentora a chefnogi busnesau a phrosiectau cymunedol.
Mae cwch Cysylltiadau Hynafol, sy’n gwch o wiail wedi’i wneud â llaw, yn cludo dymuniadau, breuddwydion a gweddïau ar gyfer y prosiect a ysgrifennwyd gan gymunedau a phlant ysgol yn Sir Benfro a Wexford. Mae cyfraniad a chyfranogiad y gymuned wrth wraidd y prosiect hwn, ac os hoffech gymryd rhan mae llawer o gyfleoedd, gan gynnwys ymuno â’n timau o Helwyr Hanes neu Lysgenhadon Twristiaeth, gwirfoddoli mewn cloddfeydd archeolegol neu fynychu ein digwyddiadau cymunedol a’n gwyliau cerddorol.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn chwilio am ffyrdd creadigol ac arloesol o ddenu ymwelwyr i Ogledd Sir Benfro a Wexford y tu hwnt i wyliau’r ysgol a’r haf. I’r perwyl hwn, mae’r prosiect yn archwilio dichonoldeb hyrwyddo llwybr pererindod newydd rhwng Ferns a Thyddewi sy’n mynd â’r pererinion ar daith drawsnewidiol drwy gefn gwlad hardd Wexford ar draws Môr Iwerddon ac ar hyd llwybr rhyfeddol arfordir Sir Benfro, gan oedi i ymweld ag eglwysi hynafol, safleoedd treftadaeth a ffynhonnau sanctaidd yn ystod y daith.
Mae’r Camino Creadigol ym mis Awst 2021 yn daith arloesol, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer llwybr pererindod modern mwy parhaol yn cysylltu Wexford a Sir Benfro, gan roi hwb i’r economi yn y ddau ranbarth.
