Prosiect Cymunedol
Ymchwiliad MacMurrough - Prosiect Treftadaeth Fearna
Cynhaliwyd Ymchwiliad MacMurrough ar 12 Hydref 2019 i nodi 850 o flynyddoedd ers dyfodiad y Normaniaid i Wexford. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Eglwys Gadeiriol St Edan’s ac roedd yn rhan o Gynhadledd Ferns 2019.
Defnyddiodd yr Ymchwiliad, a oedd yn cynnwys aelodau lleol o’r gymuned ac ymwelwyr o Gymru, fodel o ymholiad barnwrol gyda bargyfreithwyr go iawn a barnwr uchel lys go iawn mewn gwisg fodern a’r cymeriadau allweddol o’r cyfnod canoloesol wedi’u gwisgo mewn gwisg ganoloesol. Archwiliodd i ba raddau yr oedd Diarmuid MacMurrough yn gyfrifol am ‘oresgyniad’ y Normaniaid.
Rhoddodd tystion o’r cyfnod dystiolaeth, yn seiliedig ar ffeithiau hanesyddol, ac ar ddigwyddiadau a arweiniodd at y ‘goresgyniad’. Daeth Cysylltiadau Hynafol â dau actor o Gymru i chwarae rhannau Strongbow (2ail Iarll Penfro) a Robert Fitzharding, masnachwr o Fryste. Trefnodd Cysylltiadau Hynafol hefyd i’r hanesydd Dr Euryn Roberts o Brifysgol Bangor roi’r cefndir hanesyddol ar gyfer y cysylltiadau trawsffiniol rhwng Cymru ac Iwerddon yn ystod y cyfnod hwn.
Canfu’r Ymchwiliad fod Diarmuid McMurrough yn ddieuog o achosi’r goresgyniad.
Dyddiad: Hydref 2019
Allbynnau Prosiect: Ffug Ymchwiliad